Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 9
Mai 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 3.
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn penderfyniad Virgin Media i gau ei ganolfan alwadau yn Abertawe gan arwain at golli dros 700 o swyddi?
Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio.
Hefin David (Caerffili): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y cynnig arfaethedig i ganoli swyddi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystâd ddiwydiannol Trefforest?
(5 munud)
(60 munud)
NDM6716 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Brentisiaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2018.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 1 Mai 2018.
(60 munud)
NDM6719 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer treth trafodiadau tir ar drafodiadau tir masnachol dros £1 miliwn yn sylweddol uwch na'r cyfraddau cyfatebol ar gyfer trafodiadau o'r fath yn Lloegr (pump y cant) a'r Alban (4.5 y cant).
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r broses oddeutu £12 miliwn i brynu safle gorsaf bysiau Caerdydd ar 29 Mawrth 2018, gan felly osgoi ei chyfundrefn dreth trafodiadau tir ei hun gan dri diwrnod a sicrhau bod y trafodiad wedi digwydd o dan dreth dir y dreth stamp Llywodraeth y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn sgil sylwadau gan y sector, i ailystyried y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer y dreth trafodiadau tir newydd ar drafodion tir masnachol dros £1 miliwn a fydd yn cael effaith andwyol ar ddatblygu economaidd yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) Y cymeradwywyd y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1 Ebrill 2018.
b) Nad oedd treth dir y dreth stamp yn daladwy wrth brynu gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o dan y gyfundrefn honno.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu pwerau newydd sydd gan y Cynulliad i newid cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo.
(60 munud)
NDM6718 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a chymunedau.
2. Yn credu:
a) y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer isafbris uned o alcohol yn cael effaith ariannol andwyol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas; a
b) na fydd y gwerth arfaethedig o thua 50 ceiniog yr uned alcoholig yn llwyddo i wneud unrhyw newid sylweddol i faint o alcohol y mae'r rhai sy'n yfed llawer o alcohol yn gyson yn ei yfed.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a gwneud mwy i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol heb orfod troi at isafbris fesul uned.
Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
Yn gresynu at yr effaith niweidiol y gall y Bil ei chael ar gyllidebau aelwydydd sydd ar incwm isel ac y gall arwain at droi at sylweddau anghyfreithlon yn lle alcohol.
Yn cefnogi diwygio'r Bil, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, er mwyn paratoi adroddiad gwerthuso sy'n cyfeirio at effeithiau isafbris drwy gyfeirio at grŵp oedran, rhyw a statws economaidd-gymdeithasol, y defnydd o gyffuriau eraill yn lle alcohol, trais yn y cartref, effaith ar wasanaethau cymorth a'r effaith ar fanwerthwyr alcohol.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar hyn o bryd.
Yn nodi bod yr isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o alcohol yng Nghymru.
Yn nodi’r pecyn gwerth £50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod angen i fesurau iechyd y cyhoedd gael cefnogaeth y cyhoedd i fod yn llwyddiannus ac, er mwyn cyflawni hyn, bod angen pennu isafbris ar lefel a ategir gan ymchwil cadarn a all ddangos yr effaith y bydd yn ei chael ar iechyd y cyhoedd, ac yn cydnabod yr angen i osgoi cael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol ar incwm is.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch gyfathrebu eang i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sy'n esbonio nodau a diben y ddeddfwriaeth, gan gynnwys camau y gall yfwyr cymedrol eu cymryd i leihau'r effaith ariannol ar eu hunain, er enghraifft drwy leihau faint o alcohol y maent yn ei yfed yn gyffredinol neu ddewis diodydd gyda chynnwys alcohol is; byddai'r ddau yn arwain at fanteision iechyd.
Yn cydnabod manteision isafbris alcohol fesul uned ar gyfer tafarndai.
(30 munud)
NDM6713 David Melding (Canol De Cymru)
Tai yn y cymoedd: treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Mai 2018